(Rhosyn Saron) / (Crist oll yn Hawddgar)
Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthrych teilwng o fy mryd;
Er mai o ran, yr wy'n adnabod
Ei fod uwchlaw gwrthrychau'r byd:
Henffych fore
Henffych fore
Y caf ei weled fel y mae
Y caf ei weled fel y mae.
Rhosyn Saron yw ei enw,
Gwyn a gwridog, teg o bryd;
Ar ddeng mil y mae'n rhagori
O wrthrychau penna'r byd:
Ffrind pechadur,
Ffrind pechadur
Dyma'r llywydd ar y mor
Dyma'r llywydd ar y môr.
Beth sy imi mwy a wnelwyf
Ag ei lunod gwael y llawr?
Tystio'r wyf nad yw eu cwmni
I'w cystadlu â'r Iesu mawr:
O! am aros
O! am aros
Yn ei gariad ddyddiau f'oes
Yn ei gariad ddyddiau f'oes.
O am aros
O am aros
Yn ei gariad ddyddiau f'oes
Yn ei gariaad ddyddiau f'oes
Yn ei gariad ddyddiau f'oes