Letra Ai Am Fod Haul Yn Machlud de Dafydd Iwan

Letra de Ai Am Fod Haul Yn Machlud

Dafydd Iwan


Ai Am Fod Haul Yn Machlud
Dafydd Iwan
(0 votos)
Ai am fod haul yn machlud
Mae deigryn yn llosgi fy ngrudd?
Neu ai am fod nos yn bygwth
Rhoi terfyn ar antur y dydd?
Neu ai am fod côr y goedwig
Yn distewi a mynd yn fud?
Neu ai am i rywun fy ngadael
Rwyf innau mor unig fy myd?
Ai am fod golau'r lleuad
Yn oer ar ruddiau'r nos?
Neu ai am fod oerwynt gerwin
Yn cwyno uwch manwellt y rhos?
Neu ai am fod cri'r gylfinir
Yn distewi a mynd yn fud?
Neu ai am i rywun fy ngadael
Rwyf innau mor dywyll fy myd?
Ond os yw yr haul wedi machlud
Mae gobaith yng ngolau'r lloer
A chysgod yn nwfn y cysgodion
I'm cadw rhag y gwyntoedd oer
Ac os aeth cri'r gylfinir
Yn un â'r distawrwydd mawr
Mi wn y daw rhywun i gadw
Yr oed cyn toriad y wawr


Comparte Ai Am Fod Haul Yn Machlud! con tus amigos.


Que tal te parece Ai Am Fod Haul Yn Machlud de Dafydd Iwan?
Pesima
Mala
Regular
Buena
Excelente