Letra Arwelfa de Hong Kong Welsh Male Voice Choir

Letra de Arwelfa

Hong Kong Welsh Male Voice Choir


Arwelfa
Hong Kong Welsh Male Voice Choir
(0 votos)
Arglwydd, gad im dawel orffwys
Dan gysgodau′r palmwydd clyd
Lle yr eistedd pererinionAr eu ffordd i'r nefol fyd
Lle′r adroddant dy ffyddlondeb
Iddynt yn yr anial cras
Nes anghofio'u cyfyngderau
Wrth foliannu nerth dy ras

O mor hoff yw cwmni'r brodyr
Sydd â′u hwyneb tua′r wlad
Heb un tafod yn gwenieithio
Heb un fron yn meithrin brad:
Gwlith y nefoedd ar eu profiad
Atsain hyder yn eu hiaith
Teimlant hiraeth am eu cartref
Carant sôn am ben eu taith

Arglwydd, dal ni nes mynd adref
Nid yw'r llwybr eto′n faith
Gwened heulwen ar ein henaid
Wrth nesáu at ben y daith
Doed y nefol awel dyner
I'n cyfarfod yn y glyn
Nes in deimlo′n traed yn sengi
Ar uchelder Seion fryn

Arglwydd
Arglwydd
Arglwydd
Arglwydd!


Comparte Arwelfa! con tus amigos.


Que tal te parece Arwelfa de Hong Kong Welsh Male Voice Choir?
Pesima
Mala
Regular
Buena
Excelente