Trwy y mŵg
Bron a drysu â′r holl sŵn
Cyd-ddigwyddiad llwyr bod yma yr un pryd
Fel hyn mae
Dwi'n cytuno i rannu′r baich
Rhaid derbyn bod rhai petha'n gorfod bod
A weithiau wrth 'mi edrych ar dy wyneb dwi′m yn saff os dwi′n mynd ta dod
A weithiau wrth 'mi sbïo′n y drych dwi ddim yn nabod fy hun
Cuddio'r graith
Ma′n rhaid bo'r gwin na′n neud ei waith
Sut deimlad di o bod allan o dy ben?
Ti ar y brig
A fedra i ddim bod yn is
Ond i leia ydw i'n fodlon talu'r pris
A weithiau ydw i′n teimlo fel y galla i ddim cario mlaen ddim mwy
A weithiau ydw i′n teimlo fel dwi'n taro mhen yn erbyn wal
′Chos ti ddim ar gael
Hei!
Ar gael
Ti fel y wennol yn diflannu tua'r haul
Mi wn yn iawn
Hei!
Bod dy law
Fel y wennol ddim ar gael
Di dysgu′r wers
O sut i fod yn unrhyw beth
Ac wedyn ti di droi o ar ei ben
Yn ara bach
Ma'r holl beth yn troi yn strach
Dwi′m angen cael y cyfrifoldeb ma
A weithiau yn dy gwmni fydda i'n teimlo mod i'n cerdded ar y dŵr
A weithiau ydw i′n teimlo fel bo petha′n mynd o ddrwg i waeth
'Chos ti ddim ar gael
Hei!
Ar gael
Ti fel y wennol yn diflannu tua′r haul
Mi wn yn iawn
Hei!
Bod dy law
Fel y wennol ddim ar gael
Hei!
Ar gael
Ti fel y wennol yn diflannu tua'r haul
Mi wn yn iawn
Hei!
Bod dy law
Fel y wennol ddim ar gael